Y Weithdrefn Gwyno
Mae’ch adborth yn bwysig i ni
Yn Loteri Gymunedol Caerdydd, rydyn ni bob amser yn anelu at ddarparu gwasanaeth o’r safonau uchaf posibl. Os ydych chi’n teimlo ar unrhyw adeg bod y gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn yn is na’r lefel ddisgwyliedig, yna byddem ni’n hoffi clywed oddi wrthych chi. Mae manylion ein gweithdrefn gwyno i’w gweld isod:
Gallwch chi ddefnyddio’r dulliau a ganlyn i gysylltu â Loteri Gymunedol Caerdydd yn uniongyrchol:
Trwy e-bost
[email protected]Trwy’r post
Loteri Gymunedol Caerdydd
Gatherwell Ltd
Lytchett House, 13 Freeland Park
Wareham Road, Poole
BH16 6FA
Ein nod yw ymateb i bob cwyn ysgrifenedig o fewn pum niwrnod gwaith o’i derbyn
Dros y ffôn
Ffoniwch ni ar: 029 2266 8768
Os, er nad yw’n debygol o ddigwydd, eich bod yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i datrys yn foddhaol, gallwch chi ofyn iddi gael ei huwchgyfeirio i Uwch Reolwr ei hadolygu. Ein nod yw ymateb i gwynion sydd wedi’u huwchgyfeirio o fewn 10 diwrnod gwaith.
Mae Loteri Gymunedol Caerdydd yn cael ei reoleiddio gan Drwydded y St Helens Borough Council Licence Number 23/1815/GASSL.
Os ydych chi’n teimlo nad ydym wedi ymdrin â’ch cwyn yn foddhaol neu nad ydym wedi dilyn ein gweithdrefn gwynion gyhoeddedig, gallwch gwyno i’r Comisiwn Hapchwarae am ein methiant i weithredu proses gwynion cywir.
Rheoleiddwr yw’r Comisiwn Hapchwarae ac nid corff sy’n ymdrin â chwynion ac ni fyddant yn ymchwilio ffeithiau eich cwyn, ac ni fyddant yn newid y penderfyniad a wnaed yn ein proses gwynion mewnol. Bydd y Comisiwn yn adolygu os ydym wedi dilyn telerau ein trwydded weithredu. Nid yw’n ymchwilio cwynion gan ddefnyddwyr, nac yn gwneud penderfyniadau ar anghydfodau am wobrau. Nid yw’n talu iawndal nac yn darparu cyngor cyfreithiol.
Manylion cyswllt y Comisiwn yw fel a ganlyn:
Consumer Protection
Gambling Commission
4th Floor
Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4BP
Rhif ffôn: 0121 230 6666
E-bost: [email protected]