Gwthio’r Cwch i’r Dŵr
Felly mae’ch tudalen Loteri Gymunedol Caerdydd newydd fynd yn fyw ac rydych chi eisiau gwybod beth i’w wneud nesaf? Yna darllenwch ymlaen.
Does gennych chi yr un dudalen Loteri Gymunedol Caerdydd? Yna ymgeisiwch am un yma.
Yr allwedd i lwyddiant ydy gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod am eich tudalen Loteri Gymunedol Caerdydd. I wneud pethau’n haws, rydyn ni wedi rhoi canllaw fesul cam i farchnata’ch tudalen isod. Cofiwch, os ydy pethau braidd yn araf i ddechrau, peidiwch â phoeni. Yn aml, mae angen i bobl weld eich neges sawl tro cyn y byddan nhw’n gwneud unrhyw beth – felly daliwch ymlaen i floeddio amdano.
Marchnata Fesul Cam
Cam 1: Mynd Ar-lein
Y cam cyntaf i farchnata’ch tudalen Loteri Gymunedol Caerdydd yn llwyddiannus ydy sicrhau bod eich dulliau cyfathrebu digidol arferol yn cael cymaint o effaith â phosibl, felly:
- Dygwch sylw at y loteri ar wefan eich achos a rhoi dolen yn syth i’ch tudalen Loteri Gymunedol Caerdydd.
- Os oes gennych chi ganiatâd, defnyddiwch unrhyw restri e-bost sy’n bodoli i roi gwybod i’ch cymuned am eich tudalen Loteri Gymunedol Caerdydd
GAIR I GALL: Cofiwch ddefnyddio’ch PDF digidol, sydd wedi’i lunio’n benodol i chi, bob tro rydych chi’n marchnata ar-lein. Mae yno i arbed amser ichi.
Cam 2: Argraffu i Lwyddo
Mae’r cam hwn yn galw am farchnata corfforol traddodiadol – mae hyn dal yn gallu bod yn effeithiol. Cymerwch y PDF argraffadwy sydd wedi’i gyflenwi, ei argaffu ac...:
- Ei atodi at lythyrau at gefnogwyr
- Gwnewch neges drwy'r post i'r cymuned leol
- Ei ddosbarthu mewn unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod
- Ei osod ar unrhyw hysbysfyrddau addas
COFIWCH: Mae’ch cefnogwyr yn gallu dod o unrhyw le yn y DU. Defnyddiwch eich dychymyg ynglŷn â lle y gall darpar gefnogwyr ddod ohono.
Cam 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol
Gwnewch fwy na dim ond gofyn am gefnogaeth; rhowch wybod i bobl pam fod angen eu cefnogaeth arnoch chi. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan gwych ar gyfer a ddau o’r pethau hyn.
- Os nad oes gennych chi gyfrif X, yna crëwch un a thrydar negeseuon rheolaidd
- Mae’n hawdd sefydlu tudalen Facebook a chanu clodydd y gwaith da y mae’ch achos yn ei wneud a pham y dylai pobl eich cefnogi
GAIR I GALL: Mae angen bloeddi fwy nag unwaith, mae angen procio pobl sawl tro i’w cael i wneud rhywbeth.
Cam 4: Chwarae’r Gêm Hir!
Mae’n hanfodol manteisio ar lansio’ch tudalen Loteri Gymunedol Caerdydd i gael sail cefnogwyr dda – ond mae yna fwy i’w wneud na hynny. Mae adeiladu’ch sail cefnogwyr a’i chadw’n iach yn galw am ymgyrchoedd rheolaidd i ennill cefnogwyr newydd:
- Rhowch wybod beth rydych chi’n cynilo ar ei gyfer ac unrhyw gerrig milltir allweddol rydych chi eisiau eu cyrraedd (neu rai rydych chi wedi’u cyrraedd)
- Mae atgyfnerthu’r gwobrau’n cadw pethau’n berthnasol i chwaraewyr sy’n bodoli ac i ddarpar chwaraewyr
- Mae angen adnabod cyfleoedd i sicrhau cefnogwyr newydd
GAIR I GALL: Cynlluniwch eich ymgyrch farchnata ymlaen llaw er mwyn taro ar yr amseroedd allweddol o’r flwyddyn.
Rydych Chi’n Barod i Ddechrau Marchnata
Os y byddwch chi’n dilyn y camau hyn rydych chi ar eich ffordd i gael sail cefnogwyr iach. Po fwyaf y tocynnau y mae’ch cefnogwyr yn eu prynu, mwyaf oll o arian rydych chi’n ei godi
Pob lwc!