Sut mae'r loteri yn gweithio
Loteri wythnosol gyffrous sy'n codi arian ar gyfer achosion da ym Cardiff ydy Loteri Gymunedol Caerdydd. Bydd pob achos da y mae'r loteri'n ei gefnogi o fudd i Cardiff a'i thrigolion.
Chwaraewch y loteri i gefnogi Cardiff – mae hi mor syml â hynny!
Dim ond £1 yr wythnos y mae tocynnau'n costio ar gyfer y loteri. Mae gan bob tocyn gyfle 1 ym mhob 50 i ennill gwobr bob wythnos, gyda gwobr uchaf o £25,000! Mae hynna'n well cyfle o ennill na'r Loteri Genedlaethol neu'r Loteri Iechyd!
Bydd pob tocyn yn cynnwys chwech rhif a bydd pob rhif rhwng 0 a 9. Bydd y tocynnau'n cael eu tynnu bob nos Sadwrn pan fydd cyfuniad o chwech digid buddugol yn cael eu tynnu. Bydd chwaraewyr â thocynnau sy'n cyfateb i'r 2-6 rhif cyntaf neu olaf o'r cyfuniad buddugol yn cael gwobrau. Os y bydd y tocyn yn cyfateb i bob un o'r chwech, byddwch chi'n ennill y JACPOT!
Ceir rhestr lawn o'r gwobrau isod:
Nifer sydd wedi paru |
Gwobr |
Patrymau sy'n cydweddu |
Ods |
6
|
£25,000 |
|
1,000,000:1 |
5
|
£2,000 |
|
55,556:1 |
4
|
£250 |
|
5,556:1 |
3
|
£25 |
|
556:1 |
2
|
3 thocyn Am Ddim |
|
56:1 |
Eich achosion da lleol
Y loteri a'i gwobrau ydy ein ffordd ni o'i gwneud hi'n hwyl codi arian. Yr achosion da sydd wir ar eu hennill. O bob tocyn £1 sy'n cael ei werthu, bydd 52c yn mynd i achosion da ym Cardiff! I roi hyn yn ei wir oleuni, pan rydych chi'n chwarae'r Loteri Genedlaethol mae 25% yn mynd i achosion da – rydym bron wedi rhagori ar ganran y tocynnau sy'n mynd i achosion da.
Ac yn well fyth, gallwch chi ddewis pa achos da sy'n cael 40c o'r 52c (caiff y 12c sy'n weddill ei ddosbarthu i achosion da eraill).
Pob lwc a hwyl fawr!
Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n ymuno â ni i wneud Cardiff yn well fyth ac y byddwch chi'n cael rhywfaint o hwyl ar hyd y ffordd!
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, yna cysylltwch â ni.
Share this page
Sharing this page will help to generate interest for this cause
Rydym wedi llunio neges awgrymedig isod y gallwch ei rhannu gyda'ch post